Marel

Wales - Press release in Welsh from FUW

12 Aug 2012

ANNOG YR EISTEDDFOD I YMRWYMO I FWYD CYMREIG.
 
 

Heddiw, mae arweinydd ffermwyr Cymru wedi annog yr Eisteddfod Genedlaethol i ymrwymo at gyflenwi bwyd Cymreig yn y dyfodol ar faes yr ŵyl ddiwylliannol flynyddol.

Wrth groesawu’r syniad o’r “Maes Gwyrdd” yn yr Eisteddfod eleni ym Mro Morgannwg, dywedodd is lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Mr Glyn Roberts mae un o’i aneliadau oedd hyrwyddo a diogelu dyfodol hir dymor wrth ddefnyddio ymarferion amgylcheddol cynaliadwy.

“Rwy’n credu y dylai’r Eisteddfod gydnabod pwysigrwydd amaethyddiaeth o fewn ei diffiniad nhw o gynaliadwy, ill dau’n amgylcheddol ac yn economaidd.

“Felly, rwy’n gobeithio y bydd yr Eisteddfod yn defnyddio mwy o fwyd lleol yn y dyfodol drwy ei pholisi ar gyfer llefydd bwyd ar y Maes.

“I gyflawni hyn, credaf yn gryf y dylai awdurdodau’r Eisteddfod annog y defnydd o fwyd a diod Cymreig ar draws safle’r ŵyl.

“Mae cynaladwyedd yn dechrau o fewn ein cymunedau lleol lle mae nifer cynyddol o ffermwyr yn cynhyrchu cynnyrch bwyd a diod eu hunain o’r radd flaenaf.

“Ond all cymuned ond fod yn gynaliadwy os bod modd cefnogi economi sy’n ddigon cryf i rwystro ymfudiad ac amgylchedd sy’n medru meithrin ei diwydiant amaethyddol.

“Hoffwn yn fawr fod y miloedd o ymwelwyr sy’n mynychu’r Eisteddfod yn flynyddol yn cael y cyfle i samplu a darganfod rhagor o wybodaeth am yr ystod eang o gynnyrch Cymreig sydd nawr ar gael ar draws y wlad.

“Rwy’n annog nhw a threfnwyr yr ŵyl i gefnogi ymgyrch UAC sef “Mynnwch Gynnyrch Lleol”, a lansiwyd yn Sioe Frenhinol Cymru yn 2007 i hyrwyddo’r defnydd o fwyd lleol.

“Yn ôl gwefan yr Eisteddfod, ar amcan, bydd £1.5 miliwn yn cael ei wario ar fwyd ar y Maes, ond mae’n ymddangos mae ond ‘annog’ a ‘diddordeb arbennig’ sydd yng nghyflenwad bwyd o Gymru.

“Credaf yn gryf y dylid mynd un cam ymhellach na hyn a gosod safon ar gyfer y canran o gyflenwyr bwyd a diod Cymreig sydd ar gael ar y Maes.”


 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

Meat Trade News Daily Supporting British Pig Farmers

Pigs Are Worth It

Source: Argentine Beef Packers S.A.

Dawn Meats Group

Back to News Headlines